SL(5)373 – Rheoliadau Cynhyrchion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn (ac eithrio rheoliad 3(6)) wedi eu gwneud o dan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 i geisio ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 3(6) wedi ei wneud o dan adran 16 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Mae’r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys yng Nghymru ym maes bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig, deunyddiau ac eitemau mewn cysylltiad â bwyd a phennu lefel y finyl clorid a ryddheir gan y deunyddiau a'r eitemau hynny.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rheol Sefydlog 21.2(i) – ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires

Mae rheoliad 3(6) wedi ei wneud o dan adran 16 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Mae adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan y Ddeddf.

Nid yw'r rhagarweiniad i'r Rheoliadau yn nodi bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddwyd. Er bod y Memorandwm Esboniadol yn nodi ei fod wedi'i baratoi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, nid yw'n nodi a gydymffurfiwyd â gofynion adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron y Cynulliad ar gyfer sifftio yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Cytunodd y Pwyllgor mai'r weithdrefn negyddol oedd y weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

13 Mawrth 2019